Hanes y Neuadd a’r Gerddi

Adeiladwyd Neuadd Glansevern a’r adeiladau sydd o’i hamgylch rhwng 1801 a 1806, ar gyfer Arthur Davies Owen, sef Cymro bonheddig a oedd yn ddisgynnydd i Cadifor ap Daniwal, Arglwydd Castell Hywel. Mae’r neuadd yn adeilad rhestredig Gradd II* a adeiladwyd dan arweiniad pensaernïol Joseph Bromfield o Amwythig; mae ei waith ef hefyd i’w weld yn y Rug ger Corwen, Nannau ger Dolgellau a Pharc Attingham yn Sir Amwythig. Mae’r adeilad o bwys hanesyddol a phensaernïol mawr: cymharwyd pen blaen y tŷ sy’n wynebu’r de (pum bae, â phedwar pilastr Ïonig yn eu rhannu, gan gefnogi pendrawst plaen) ag adeilad Petit Trianon yn Versailles gan John Hilling yn ‘The Historic Architecture of Wales’ ac, yn ôl disgrifiad Richard Haslam (yn gweithio gyda Nikolaus Pevsner, sef ysgolhaig uchel ei barch ym maes hanes pensaernïaeth), roedd Glansevern yn dŷ moel yn null yr Adfywiad Groegaidd o garreg Cefn.

Ym 1876, fe basiodd y stad trwy’r llinach fenywaidd i’r teulu Humphreys, a fabwysiadodd enw ychwanegol Owen ac arfbais y teulu Owen. Roedd y teulu Humphreys-Owen yn stad Glansevern hyd 1951, pan werthwyd yr eiddo. Wedi hynny, bu nifer o bobl, y naill ar ôl y llall, yn berchen arno am dymor byr.

Ym 1982, prynodd Neville a Jenny Thomas y stad. Erbyn hyn, roedd y stad wedi tyfu’n wyllt a’r neuadd wedi mynd â’i phen iddi, a bu’r teulu Thomas yn gweithio’n hynod galed dros sawl blwyddyn i adfer y stad fel ei bod yn gwbl weithredol eto. Gwnaethon nhw lawer iawn o waith yn y gerddi, gan eu hagor nhw i’r cyhoedd ym 1996.

Y dyddiau hyn, mae’r perchnogion newydd wedi ymrwymo i gadw Gerddi Neuadd Glansevern ar agor i gefnogwyr ddod i’w mwynhau o bell ac agos, ac i ddenu mwy o ymwelwyr i’r rhan ryfeddol hon o’r byd. Ac mae’r teulu Thomas yn dal i roi cyngor gwerthfawr.

O ran hanes y gerddi eu hunain, prin yw’r cofnodion o’r cynllun gwreiddiol, er ei bod hi’n hysbys bod yr Ardd Furiog wedi’i phlannu gan ddilyn ei dimensiynau presennol ym 1805. Ailfodelwyd y tu mewn yn llwyr yn 2001 i gynnig naw “ystafell” ar wahân, gan gynnwys “Y Rhosod” a’r “Stori Dylwyth Teg”.

Y sôn yw bod yr Ardd Gerrig a’r Groto trawiadol yn dyddio o ryw 1840, ac mae yna gynllun gardd dyddiedig 1880 wedi’i lofnodi gan Edward Milner, sef tad Henry Ernest Milner a ysgrifennodd ‘The Art and Practise of Landscape Gardening’ ym 1890.